Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

1 Gorffennaf 2014 18.10 – 19.20

Ystafell Briffio’r Cyfryngau

Adroddiad Co-operatives UK ar gwmnïau cydweithredol cymdeithasol

 

Aelodau'r Cynulliad yn Bresennol

Dim

Yr Ysgrifenyddiaeth

Alex Bird (Cadeirydd, Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru)

Siaradwyr

Ed Mayo (Ysgrifennydd Cyffredinol, Co-operatives UK) Pat Conaty (Ymchwilydd Cyswllt Co-operatives UK)

Gwesteion

Ruth Dineen (Co-production Wales), Sue Thomas (Llyfrgellydd Iechyd) Richard Vaughan (Cymdeithas Tai Cadwyn) Sarah Cole (Cymdeithas Tai Cadwyn) Glenn Bowen (Canolfan Cydweithredol Cymru) Adrian Roper (Cartrefi Cymru) Mike Vigar (Cymorth Cymru) Michael Flyn (Diverse Cymru) Ceri-Ann Fiddler (Canolfan Cydweithredol Cymru) Dave Palmer (Canolfan Cydweithredol Cymru) Howard Lewis (ChangeAGEnts) Paul Dear (Llywodraeth Cymru) Ray Joseph, Eleanor Marks (Llywodraeth Cymru) Rhian Davies (Anabledd Cymru) David Smith (Co-operative Group) Linda Ward (Co-operatives UK) y Cyng. Sylvia Jones (y Blaid Gydweithredol) Martin Price (consultancy.coop) Karen Wilkie (y Blaid Gydweithredol) Lyn Richards (Wales Restorative Approaches Partnership) Julia Houlston Clark (WRAP) Michelle Andrews (WRAP) Mike Jones (Canolfan Cydweithredol Cymru) Jo Mora ( Llywodraeth Cymru) Karyn Pittick (Llywodraeth Cymru) Ron Walton a thri arall

 

Alex Bird (Cadeirydd Dros Dro) agorodd y cyfarfod am 18.10 am nad oedd unrhyw Aelodau'r Cynulliad yn gallu bod yn bresennol, gan fod Cyfarfod Llawn y Cynulliad yn para tan yn ddiweddarach y noson honno. Esboniodd Alex y sefyllfa, croesawodd y gwesteion a chyflwynodd y siaradwyr.

Amlinellodd Ed Mayo y cefndir ar gyfer lansio'r Adroddiad hwn yng Nghymru, gan nodi bod Cymru yn arwain yr agenda ar ddatblygu cydweithfeydd cymdeithasol yn y DU. Mae hyn yn bwysig gan mai tua thraean o gyllidebau awdurdodau lleol sy’n cael ei wario ar ofal cymdeithasol, a bydd unrhyw newid yn bwysig i'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Yna eglurodd Pat Conaty y broses ar gyfer datblygiad yr adroddiad a'i brif bwyntiau.

Dechreuwyd y gwaith arno tua blwyddyn yn ôl yn Birmingham gyda seminar.

Nododd fod ar gartrefi gofal yn y DU ddyled o dros £4 biliwn rhyngddynt, a bod llawer yn syrthio’n brin o’r safon gyffredin. Ugain mlynedd yn ôl, roedd y sector yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau preifat yn bennaf, ond erbyn hyn, y sector preifat yw'r rhan fwyaf ohono. Yn ogystal, mae 6.3 miliwn o ofalwyr di-dâl, sef teuluoedd a chyfeillion yn bennaf.

Mae eisoes filoedd o gydweithfeydd cymdeithasol yn yr Eidal, ac mae ei sector cydweithredol yn gyffredinol yn llawer mwy na'r sector yma. Yn rhanbarth Emilia Romagna, mae dros 8,000 o gydweithfeydd, ac maent yn cyfrannu 40% o gynnyrch domestig gros.

Mae cydweithfeydd cymdeithasol yr Eidal yn anelu at gael llai na 100 o aelodau er mwyn cadw'r elfen bersonol, ac maent yn defnyddio egwyddor y "gwely mefus" lle bydd pawb yn ymrwymo i greu cydweithfa arall.

Eglurodd Pat y cyfleoedd posibl i’r cydweithfeydd cymdeithasol o ran cynnydd a thwf, yn enwedig y cyfleoedd yn y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Roedd copïau o'r Adroddiad ar gael yn y cyfarfod

 

 

Cwestiynau o'r llawr:-

Esboniodd Rhian Davies brosiect newydd Anabledd Cymru i sefydlu cydweithfeydd cymdeithasol.

Holodd Howard Lewis am agwedd yr undebau llafur.

Esboniodd Pat fod yr undebau llafur yn Québec yn cefnogi cydweithfeydd cymdeithasol yn llawn yno am eu bod yn seiliedig ar swyddi, nid gwirfoddoli, ac am fod y swyddi a ddarperir gan gydweithfeydd cymdeithasol yn gyffredinol yn well o ran eu hansawdd.

Esboniodd Ed i TUC Cymru sefydlu Canolfan Cydweithredol Cymru yn dilyn ymweliad ymchwil â Mondragon. Y penwythnos hwn, bydd Cydweithfa'r Flwyddyn yn y DU eleni, sef SUMA Wholefoods yn Swydd Efrog, yn croesawu'r TUC i esbonio'r model cydweithredol a dangos ansawdd y gyflogaeth a grëwyd ganddo.

Nododd Ed hefyd yr angen i ddadansoddi sefydliadau. Mae rhai cyrff a elwir yn gydfuddiannol wedi deillio o wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr, ond nid ydynt yn enghreifftiau o arfer gorau, ac ychydig o berchnogaeth a rheolaeth sydd gan eu cyflogai a’u rhanddeiliaid. Pwysleisiodd yr angen i'r sector cyhoeddus weithio gyda'r sector cydweithredol er mwyn sicrhau eu bod yn elwa ar y gwir fodel cydweithredol trwy unrhyw gwmnïau deillio.

 

Caeodd Alex Bird y cyfarfod am 19.20 a diolchodd i bawb am ddod.